Papur Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwiliad Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd I ddyfodol ynni craffach i Gymru.
Mae’r papur hwn yn disgrifio cyfrifoldebau portffolios Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol am ynni
1. Gosod cyfeiriad clir
Disgrifir polisi ynni Llywodraeth Cymru yn Ynni Cymru: Newid Carbon Isel (2012). Yr amcan yw sicrhau economi isel ei charbon sy’n darparu swyddi a ffyniant tymor hir mewn cydweithrediad â busnesau a chymunedau i ddarparu dyfodol ynni carbon isel craffach i Gymru.
Yn unol â chyfrifoldebau Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth am ynni, cyhoeddwyd Datganiad Ynni ym mis Ebrill 2015./ Mae’n disgrifio sut i barhau â’r newid i economi carbon isel trwy weithio gyda diwydiant a rhanddeiliaid eraill. Mae’n cydnabod yr angen am amgylchedd sefydlog, arloesol a hyblyg ar gyfer cefnogi buddsoddi a swyddi tymor hir. Mae’n cynnig gweledigaeth glir:
a) diogelu a manteisio i'r eithaf ar ynni yng Nghymru drwy arweiniad cryf ar draws y llywodraeth;
b) manteisio ar y newid i gynhyrchu ynni carbon isel, i gael y budd mwyaf posibl i fusnesau, aelwydydd a chymunedau Cymru;
c) cynnal amgylchedd cystadleuol a chefnogol i fusnesau er mwyn sicrhau buddsoddiad a chyflenwad cynaliadwy;
d) ceisio sicrhau cydraddoldeb a mwy o ddylanwad o fewn y DU a thu hwnt i Gymru a'i buddiannau.
Bwriedir i’r datganiad ynni chwarae rhan bwysig o ran sbarduno’r economi i dyfu, creu mwy o swyddi a sgiliau gwyrdd ledled Cymru a gwneud ein busnesau’n fwy cystadleuol trwy arloesedd.
Bydd y ‘Twf Gwyrdd’ hwn yng Nghymru’n sbarduno datblygiad economaidd a thegwch cymdeithasol gan sicrhau yr un pryd bod ein hasedau naturiol yn gallu parhau i ddarparu’r adnoddau a’r gwasanaethau amgylcheddol y mae ein lles yn dibynnu arnynt. Mae Twf Gwyrdd Cymru: Ynni Lleol yn disgrifio gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni lleol yng Nghymru ar draws y portffolio Cyfoeth Naturiol.
2. Cyfrifoldebau
Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gyfrifol am:
· Polisi ynni, cyfleusterau a seilwaith ynni mawr (i gynnwys “grid”), datganoli materion ynni, dur, glo, olew a nwy. Y prif flaenoriaeth yw datganoli materion ynni: Bil Cymru a’r Bil Ynni.
· Sectorau economaidd gan gynnwys Ynni a’r Amgylchedd, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ac Adeiladu. Sicrhau swyddi, twf a chyfleon cadwyni cyflenwi ar brosiectau mawr megis Wylfa Newydd, datgomisiynu Magnox, a Morlyn Llanw Bae Abertawe
· Gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi gan gynnwys ymchwil a datblygu, trosglwyddo gwybodaeth a masnachol.Manteisio ar ymchwil, datblygu ac arloesi ym maes ynni gan ymateb i brif heriau ynni strategaeth Gwyddoniaeth ar gyfer Cymru sef ynni carbon isel ac amgylchedd.
· Grwpiau sector a gweinidogol sy’n cynnig cyngor arbenigol a chyfeiriad ar faterion ynni.Y prif grwpiau cynghori yw grŵp cyflawni strategol Ynni Cymru; panel y sector Ynni a’r Amgylchedd, grŵp gorchwyl a gorffen Diwydiannau’r Môr a grŵp gorchwyl a gorffen Magnox.
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol yn gyfrifol am:
· Bolisi sy’n gysylltiedig â phrosiectau ynni bach i ganolig, ynni domestig, defnyddio ynni’n effeithlon a lleihau tlodi tanwydd. Y prif flaenoriaeth yw Twf Gwyrdd Cymru, Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni, Cartrefi Cynhesach
Hefyd, bydd meysydd eraill yn y portffolio’n effeithio ar ynni, gan gynnwys:
· Cyfrifoldeb trawsbynciol am Ddatblygu Cynaliadwy, gan gynnwys Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae cynhyrchu ynni yng Nghymru’n rhan bwysig o’r nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
· Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae swyddogaethau menter a rheoleiddio CNC yn gallu cefnogi twf gwyrdd a’r newid i gymdeithas carbon isel, a gwneud Cymru’n fwy galluog yn y tymor hir i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd
· Mesurau lliniaru ac addasu trawsbynciol ar gyfer y newid yn yr hinsawdd.. Bydd Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn cryfhau’r ymrwymiad i leihau allyriadau CO2 drwy osod targedau statudol ar newid hinsawdd a chyllidebau carbon er mwyn sbarduno rhagor eto o weithredu i arafu’r newid yn yr hinsawdd. Y nod y yw sicrhau 80% o ostyngiad mewn CO2 erbyn 2050.
· Adnoddau cynaliadwy a rheoli gwastraff yng Nghymru. Yr uchelgais yw gweld Cymru’n ailgylchu 70 y cant o’i holl wastraff erbyn 2025 a chynhyrchu dim gwastraff erbyn 2050.
· Pob agwedd ar bolisi cynllunio, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau statudol i Awdurdodau Lleol a phenderfynu ar anghydfodau ac apeliadau cynllunio . Polisi Cynllunio Cymru sy’n gosod y cyd-destun ar gyfer polisi ynni a chynllunio yng Nghymru. Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, penderfynu ar geisiadau am ganiatâd ynni a datblygiadau a ganiateir.
· Rheoliadau Adeiladu (Eithrio rhai mathau o adeiladau rhag Rheoliadau Adeiladu a phenderfynu ar apeliadau yn eu cylch) Mae rheoliadau adeiladu’n gosod safonau effeithiolrwydd ynni a carbon isel ar gyfer dylunio ac adeiladu